Anweledig, 'r wy'n dy garu,
Ac ni fedda' i yn y byd
Wrthrych alla' i bwyso arno,
Wrthrych da rhoi iddo 'mryd;
'Does fy lleinw
O bob pleser ond dy hun.
Ti'm harweinaist o'r creadur
Ar hyd llwybrau geirwon iawn;
Ni ches lonydd gyda 'mhleser
Fyth na bore na phrynhawn;
Yn yr anial
Dwedaist eiriau wrth fy modd.
'R wyf yn fodlon i'th geryddon,
Pan 'nabyddwyf mai dy lais
Sy'n fy nwyn o blith y llewod,
O bob gormes, o bob trais;
Gwell ni diliau
Yw deniadau geiriau'r nef.
'Chlywodd clust, ni welodd llygad,
Ac ni ddaeth i galon dyn
Erioed feddwl na dychymyg
Y fath ydwyt ti dy hun;
Rhagor decach
Wyt nag welodd nef na llawr.
Ac 'r wyf finnau yn dy garu
Uwch a welais eto erioed,
Uwch a glywais sôn amdano,
Neu ynteu a ddychmygais fod;
Dyma fflamau
Perffaith, mwyn trigannau'r nef.
William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Anweledig 'rwy'n dy garu (Rhyfedd ydyw nerth dy ras) Clustiau cnawd ni allant glywed Llawen ydwyf fod dy hanfod Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd |
Unseen, I love thee,
And I have not in the world
Anything which I can lean on,
Anything good to which my mind may turn;
Nothing fills me
With every pleasure but thyself.
Thou didst lead me from the creature
Along very rough paths;
I did not have peace with my pleasure
Never morning nor afternoon;
In the desert
Thou didst speak words to please me.
I am willing for thy rebukes,
When I recognize that it is thy voice
Which is leading me from among the lions
From every tyranny, from every assault;
Better than honeycombs
Are the attractions of heavens words.
No ear heard, nor any eye saw
Nor came it to man's heart
Never to have thought nor imagined
What thou art thyself;
Far fairer
Art thou than heaven or earth saw.
And as for me I am in thy love
Higher than I ever saw already,
Higher than anything I heard of,
Or that which I imagined to be;
Here are flames
Perfect, gentle residences of heaven.
tr. 2008 Richard B Gillion
|
|